P-05-1157 Caniatáu i ysgolion asesu myfyrwyr fel y maent yn gweld yn addas, gan gynnwys defnyddio asesiadau llyfr agored
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Ibrahim Sheikh, ar ôl casglu cyfanswm o 2,312 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Yn ddiweddar, cyhoeddodd CBAC y bydd yn rhaid i fy ngholeg ein hasesu drwy gyfrwng asesiadau yn y dosbarth o dan amodau arholiad. Gwnaed y cyhoeddiad hwn 6 wythnos ysgol cyn bod ein hathrawon i fod i gyflwyno ein graddau, sy’n golygu mai cyfnod byr iawn fydd gennym i baratoi ar gyfer arholiadau. Nid yw hyn yn deg i fyfyrwyr sydd wedi cael gwybodaeth anghyson ynghylch sut y byddwn yn cael ein graddio gydol y flwyddyn. Ysgolion ddylai gael penderfynu sut i asesu myfyrwyr, gan fod y pandemig wedi effeithio arnynt mewn ffyrdd gwahanol.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Canol Caerdydd
· Canol De Cymru